Siom Corff Gwarchodol y Parciau ar y Garreg Las
24 Mawrth 2004
Mae corff gwarchodol y Parciau Cenedlaethol, Cyngor y Parciau Cenedlaethol (CPC) (1), wedi ei siomi wrth benderfyniad Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro heddiw i lynu at ei benderfyniad (2) i roi caniatād cynllunio amlinellol i ddatblygiad Y Garreg Las (3) ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Penfro.
Dywedodd Ruth Chambers, Pennaeth Polisi CPC, "Mae Cyngor y Parciau Cenedlaethol yn siomedig iawn o glywed penderfyniad Awdurdod y Parc Cenedlaethol heddiw i wrthod gwirdroi ei bederfyniad i roi caniatād cynllunio amlinellol i gais cynllunio Y Garreg Las am ddatblygiad twristiaeth enfawr newydd yng nghefn gwlad agored.
"Mae Cyngor y Parciau Cenedlaethol o'r farn y bydd y datblygiad yma yn niweidio amcanion statudol Parciau Cenedlaethol a bod cymeradwyaeth ohono yn gosod cynsail peryglus i'r Parc Cenedlaethol hwn ac eraill. Fel y mae swyddogion Awdurdod y Parc Cenedlaethol wedi barnu, mae'r datblygiad yma'n tynnu'n groes i bolisļau lleol a chenedlaethol sydd ā'u nod i ddiogelu'r Parciau Cenedlaethol, ac mae gadael iddo fynd yn ei flaen yn sathru ar bolisļau sydd i fod i sicrhau gwarchodaeth o'r Parc Cenedlaethol.
"Gan fod yr Awdurdod wedi gwrthod gwridroi ei benderfyniad (4) i gymeradwyo datblygiad Y Garreg Las, mae ymddiriedolwyr Cyngor y Parciau Cenedlaethol nawr mewn sefyllfa i wneud penderfyniad terfynol ar p'un ai i fynd ati i ddwyn achos llys yn erbyn penderfyniad yr Awdurdod yn yr Uchel Lys. Yr ydym yn disgwyl y gwneir y penderfyniad yma o fewn dyddiau.
Gorffennodd Ruth Chambers: "R'yn ni wedi cael ein cyhuddo o dactegau oedi am ein bod wedi bod yn cysidro her cyfreithiol o benderfyniad Awdurdod y Parc. Camddealltwriaeth yw hwn, am fod her cyfreithiol o benderfyniad awdurdod cynllunio yn ran sefydledig o'r sustem cynllunio defnydd tir a'r sustem gyfreithiol. Her cyfreithiol yw'r unig fodd bellach i warchod y Parc Cenedlaethol rhag datblygiad Y Garreg Las. Ry'n ni wedi ceisio bod yn agored ynglŷn ā'n bwriad ac wedi gwneud ein gorau glas i osgoi her cyfreithiol. Mae mynd i'r gyfraith yn opsiwn dewisol dim ond pan fetho popeth arall, ac felly y dylai hi fod bob amser, gan gofio'r peryglon i bob plaid sy'n gysylltiedig ā'r achos".
Nodiadau i Olygyddion
1. Cyngor y Parciau Cenedlaethol yw'r elusen genedalethol sy'n gweithio i hybu a gwella Parciau Cenedlaethol Cymru a Lloegr ac ardaloedd sy'n teilyngu statws Parc Cenedlaethol, a hybu dealltwriaeth a mwynhad tawel ohonynt er budd pawb.
2. Fe wnaeth pwyllgor rheoli datblygu Awurdod y Parc Cenedlaethol gymeradwyo cais cynllunio amlinellol Y Garreg Las ar 28 Ionawr. Oherwydd bod y cais yn tynnu'n groes i bolisiau'r Awdurdod ei hun, cafodd ei gyhoeddi fel cais sy'n gwyro.
3. Mae'r rhan o'r datblygiad sydd o fewn y Parc Cenedlaethol yn cynnwys 340 caban pren a fewnforir o Estonia, pentref newydd sbon, clwb chwaraeon a gweithfeydd trin carffosiaeth.
4. Danfonwyd 'llythyr cyn hawlio' i Awdurdod Y Parc Cenedlaethol yn ei wahodd i ailfeddwl ei benderfyniad ar Y Garreg Las. Roedd hwn yn rhoi cyfle terfynol i'r Awdurdod newid ei benderfyniad cyn i achos gael ei gychwyn.
For press queries please contact:
Ruth Chambers, Head of Policy on
020 7924 4077 ext. 222
