Corff Gorchwyl y Parciau'n Mynd i'r Gyfraith dros Y Garreg Las
23 Ebrill 2004
Mae corff gorchwyl y Parciau Cenedlaethol (CPC) (1) wedi penderfynu dwyn achos llys yn erbyn Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro dros ei benderfyniad (2) i roi caniatād cynllunio amlinellol i ddatblygiad Y Garreg Las (3) ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Penfro.
Dywedodd Ruth Chambers, Pennaeth Polisi CPC: "Ry'n ni wedi cymryd y cam eithriadol yma i herio penderfyniad Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn yr Uchel Lys oherwydd y consyrn difrifol bod yr Awdurdod wedi di-ystyrru ei bolisļau ei hun a hefyd am y ffordd y cafodd y penderfyniad ei wneud.
"Ry'n ni wedi gwneud ein gorau glas i osgoi her cyfreithiol. Dim ond pan fetho popeth arall y mae mynd i'r gyfraith yn dod yn opsiwn dewisol, ac felly y dylai hi fod bob amser. Ond wedi cysidro'r materion difrifol sydd yn y fantol am ddyfodol ein Parciau Cenedlaethol, a gan mai dyma'r gobaith olaf i warchod ein Parciau Cenedlaethol, ry'n ni wedi rhoi cyfarwyddyd i'n cyfreithwyr i ddechrau achos cyfreithiol ar unwaith (4).
Gorffennodd Ruth Chambers: "Cymerwn y cam hwn ā chalon drom. Mae CPC yn gefnogwr brwd o waith Awdurdodau'r Parciau Cenedlaethol. Ond yn achos Y Garreg Las, ry'n ni o'r farn bod penderfyniad Awdurdod y Parc yn ddifrifol ddiffygiol ac yr ydym yn barod i herio eu penderfyniad dwy'r llys."
Nodiadau i Olygyddion
1. Cyngor y Parciau Cenedlaethol yw'r elusen genedalethol sy'n gweithio i hybu a gwella Parciau Cenedlaethol Cymru a Lloegr ac ardaloedd sy'n teilyngu statws Parc Cenedlaethol, a hybu dealltwriaeth a mwynhad tawel ohonynt er budd pawb.
2. Fe wnaeth pwyllgor rheoli datblygu Awurdod y Parc Cenedlaethol gymeradwyo cais cynllunio amlinellol Y Garreg Las ar 28 Ionawr. Gan bod y cais yn tynnu'n groes i bolisiau'r Awdurdod ei hun, cafodd ei gyhoeddi fel cais sy'n gwyro.
3. Mae'r rhan o'r datblygiad sydd o fewn y Parc Cenedlaethol yn cynnwys 340 caban pren a fewnforir o Estonia, pentref newydd sbon, clwb chwaraeon a gweithfeydd trin carffosiaeth.
4. Caiff achos cyfreithiol ei gyhoeddi yn yr Uchel Lys ddydd Gwener 23 Ebrill 2004.
For press queries please contact:
Ruth Chambers, Head of Policy on
020 7924 4077 ext. 222
