Adolygiad y Parciau yn Gosod AGenda i'r Dyfodol

22 Mawrth 2004

Mae elusen y Parciau Cenedlaethol, Cyngor y Parciau Cenedlaethol (CPC) (1) wedi rhoi croeso cynnes i'r adolygiad annibynnol (2) o'r tri Pharc Cenedlaethol yng Nghymru (3), a fydd dan drafodaeth cyhoeddus am y tro cyntaf ddydd Mercher 24 Mawrth (4).

Dywedodd Ruth Chambers, Pennaeth Polisi CPC: "Mae CPC yn croesawu'r adolygiad sy'n dangos yn ddiamau pwysigrwydd y tri Pharc Cenedlaethol i Gymru gyfan.  Mae'r adolygiad yn cydnabod pwysigrwydd clir y Parciau yn nifer o feysydd, gan gynnwys twristiaeth, datblygu gwledig a chynwysiad cymdeithasol."

Dywedodd Sylvia Davies, Uwch Swyddog Polisi CPC: "Mae gwaith Awdurdodau'r Parciau Cenedlaethol wedi ei gymeradwyo gan yr Adolygiad, er eu diffyg adnoddau, ac hefyd y ffactorau sy'n gosod sialensau sydd y tu allan i'w rheolaeth, megis y Polisi Amaeth Cyffredin (CAP).  Mae'r adolygiad hefyd wedi dod i'r casgliad bod Llywodraeth y Cynulliad ddim wedi pleidio achos y Parciau Cenedlaethol, ac mae'n galw ar y llywodraeth i gydnabod y Parciau Cenedlaethol, drwy'r gair a thrwy gweithred fei ei gilydd, yn asedau amgylcheddol ac economaidd.

"Mae'r adolygiad hefyd yn taflu her i gyrff cyhoeddus eraill fel Awdurdod Datblygu Cymru i weithio gydag Awdurdodau'r Parciau Cenedlaethol i sicrhau bod amgylchedd, economi a chymunedau'r Parciau yn ffynnu yn y dyfofdol mewn modd sy'n gynaladwy."

I gloi, dywedodd Ruth Chambers: "mae'r adolygiad yn rhoi hwb calonogol i Barciau Cenedlaethol Cymru.  Ry'n ni'n gweld tri her y bydd yn rhaid eu hwynebu os bydd argymhellion yr adolygiad i'w cyflawni mor llawn ac mor gyflym ac yr hoffem:

·         sicrhau bod y Parciau'n cael eu ariannu'n ddigonol;

·         Llywodraeth y Cynulliad yn cydio yn ei rôl fel amddiffynnydd y Parciau

·         cyrff eraill yn gweithio mewn partneriaeth gydag Awdurdodau'r Parciau i gyflawni amcanion statudol y Parciau Cenedlaethol (5)".

Nodiadau i Olygyddion

1.              Cyngor y Parciau Cenedlaethol yw'r elusen genedlaethol sy'n gweithio i warchod a hybu Parciau Cenedlaethol Cymru a Lloegr ac ardaloedd sy'n teilyngu statws Parciau Cenedlaethol, a hyrwyddo dealltwriaeth a mwynhad tawel ohonynt er budd pawb.

2.              Comisiynodd Llywodraeth y Cynulliad ymgynhorwyr annibynnol, Land Use Consultants, i ymgymryd â'r adolygiad.  Gweler adroddiad yr ymgynghorwyr ar safle gwe'r Cynulliad ar:

http://www.cefngwlad.cymru.gov.uk/fe/master.asp?n1=3&n2=335&n3=45 http://www.countryside.wales.gov.uk/fe/master.asp?n1=3&n2=335&n3=457

3.              Tri Pharc Cenedlaethol Cymru yw: Arfodir Penfro, Bannau Brycheiniog, Eryri.  Gyda'i gilydd, maent yn gorchuddio 205 o arwynebedd tir Cymru.

4.              Ca'r adroddiad ei drafod gan Bwyllgor yr Amgylchedd, Cynllunio a Chefn Gwlad y Cynulliad yn ei gyfarfod a gynhelir ddydd Mercher 24 Mawrth.

5.              Pwrpasau statudol y Parciau yw:

-          i warchod a gwella eu harddwch naturiol, bywyd gwyllt a threftadaeth diwylliannol, ac

-          i hybu cyfleoedd i'r cyhoedd ddeall a mwynhau eu rhinweddau arbennig

For press queries please contact:
Ruth Chambers, Head of Policy on
020 7924 4077 ext. 222