Her i Benderfyniad Y Garreg Las yn Tynnu'n Nes

15 Mawrth 2004

Mae corff gwarchodol y Parciau Cenedlaethol, Cyngor y Parciau Cenedlaethol (CPC) (1) wedi rhyddhau'r datganiad dilynol yn nghyswllt datblygiad Y Garreg Las (2) ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Penfro.

"Mae Cyngor y Parciau Cenedlaethol yn anghytuno ā phenderfyniad Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro (3) i roi caniatād cynllunio amlinellol i gais cynllunio Y Garreg Las am ddatblygiad newydd anferth ar dir agored yng nghefn gwlad.

Mae CPC yn cysidro y byddai'r datblygiad hwn yn niweidio pwrpasau statudol y Parciau Cendlaethol yn ddifrifol ac y byddai cymeradwyaeth o'r cynllun yn gosod cynsail peryglus i'r Parc Cenedlaethol hwn ac eraill.  Fel y mae swyddogion Awdurdod y Parc Cenedlaethol wedi barnu, mae'r datblygiad hwn yn tynnu'n groes i bolisļau lleol a chenedlaethol sydd ā'u nod i ddiogelu'r Parciau Cenedlaethol. Yn ogystal, mae gan CPC gonsyrn am y modd y gwnaeth yr Awdurdod ddod i'w benderfyniad.

Mae 'llythyr cyn hawlio' wedi ei ddanfon at Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn ei wahodd i ailfeddwl ei benderfyniad.  Mae hwn yn rhoi cyfle terfynol i'r Awdurdod i newid ei benderfyniad cyn i achos gael ei gychwyn.  Bydd y cais hwn yn cael ei drafod mewn Cyfarfod Anghyffredin o'r Awdurdod ddydd Gwener 19 Mawrth (4).  Os bydd yr Awdurdod yn penderfynu gwrthdroi ei benderfyniad, yna dyna bydd diwedd y gān ac ni fydd gweithredu pellach.  Ar y llaw arall, os bydd yr Awdurdod yn gwrthod gwrthdroi ei benderfyniad i gymeradwyo datblygiad Y Garreg Las, yna bydd ymddiriedolwyr CPC yn gwneud penderfyniad terfynol ar p'un ai i ddwyn achos yn  erbyn penderfyniad yr Awdurdod yn yr Uchel Lys".

Nodiadau i Olygyddion

1.              Cyngor y Parciau Cenedlaethol yw'r elusen genedlaethol sy'n gweithio I hybu a gwella Parciau Cenedlaethol Cymru a Lloegr ac ardaloedd sy'n teilyngu statws Parc Cenedlaethol, a hybu dealltwriaeth a mwynhad tawel ohonynt er budd pawb.

2.              Mae'r rhan o'r datblygiad sydd o fewn y Parc Cenedlaethol yn cynnwys 340 bwthyn pren a fewnforir o Estonia, pentref newydd sbon, clwb chwaraeon a gweithfeydd trin carffosiaeth.

3.              Fe wnaeth pwyllgor rheoli datblygu Awdurdod y Parc Cenedlaethol gymeradwyo cais cynllunio amlinellol Y Garreg Las ar 28 Ionawr.  Oherwydd bod y cais yn tynnu'n groes i bolisiau'r Awdurdod ei hun, cafodd ei gyhoeddi fel cais sy'n gwyro.

4.              Cynhelir gyfarfod anghyffredin o'r Awdurdod yn Ngwesty'r Cleddau Bridge, Doc Penfro, ddydd Gwener 19 Mawrth am 1.30yb.

For press queries please contact:
Ruth Chambers, Head of Policy on
020 7924 4077 ext. 222