Gweinidog Cynllunio yn Gosod Cynsail Gofidus

31 Gorffennaf 2003

Mae grwp o brif elusennau dan arweiniad Cyngor y Parciau Cenedlaethol  [1,2,3,4] wedi mynegi syndod fod y Gweinidog Cynllunio, Carwyn Jones AM, heb ddilyn y camau priodol wrth ystyried cais cynllunio dadleuol iawn am safle gwyliau enfawr sydd â bron ei hanner o fewn Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro [5].

Dylai ceisiadau cynllunio sy'n codi materion cymhleth sy'n effeithio ar dirweddau o bwys, megis Parciau Cenedlaethol, gael eu galw oddi wrth yr awdurdodau lleol i'r Cynulliad Cenedlaethol gan y Gweinidog Cynllunio yn y man cyntaf, yna ymchwiliad cyhoeddus yn cael ei gynnal ac yn olaf, penderfyniad gan y Gweinidog Cynllunio. Mae'r broses yma yn sicrhau fod holl oblygiadau cynigion datblygu o bwys yn cael eu harchwilio'n agored.

Y ceisiadau sy'n cael eu galw at y Cynulliad yw'r rhai sydd [6]:

·         Mewn anghydfod â pholisiau cynllunio cenedlaethol

·         Yn gallu cael effeithiau eang y tu hwnt i'r ardal leol

·         Yn gallu bod yn bwnc llosg sylweddol y tu hwnt i'r ardal leol

·         Yn debyg o effeithio'n sylweddol ar ardaloedd o . dirwedd o bwys

Mae cais cynllunio Bluestone ym Mhenfro yn taro pob un o'r meini prawf yma, ond er hynny, yn anesboniadwy, mae'r Gweinidog Cynllunio wedi gwrthod galw'r cais i'r Cynulliad, ac ymlaen wedyn at Ymchwiliad Cyhoeddus. 

Mae Gweinidog Datblygu'r Economi Llywodraeth y Cynulliad [4], Pwyllgor Datblygu'r Economi y Cynulliad Cenedlaethol [7] a Senedd y DU i gyd wedi cymeryd diddordeb yn y cynnig. Ond mae'r Gweinidog Cynllunio, Carwyn Jones, yn credu bod y cynnig o bwys 'lleol' yn unig ac wedi gadael y cais yn nwylo'r ddau Awdurdod Cynllunio lleol [8].

Dywedodd Uwch Swyddog Polisi CPC, Sylvia Davies: "Ein Parciau Cenedlaethol yw'r gemau mwya' gwerthfawr yng nghoron cefn gwlad.  Mae maint dablygiad Y Garreg Las, sy'n cynnwys adeiladu pentref gwbl newydd gyda 400 o gabanau a bythynnod, heb ei debyg mewn tirwedd o bwys cenedlaethol, ac mae CPC yn methu'n lan â deall pan nad yw'r Gweinidog yn cymeryd mwy o ddiddordeb ynddo.  Dylai Carwyn Jones alw'r cais at y Cynulliad. Fe ddylai wedyn sicrhau fod Ymchwiliad Cyhoeddus yn cael ei gynnal fel bod trafodaeth agored yn gallu cymeryd lle ar gais mor astrus a phwysig."

Nodiadau i Olygyddion

1.      Cyngor y Parciau Cenedlaethol (CPC) yw'r unig elusen genedlaethol sy'n gweithio i warchod a hybu Parciau Cenedlaethol Cymru a Lloegr ac ardaloedd sy'n teilyngu statws Parciau Cenedlaethol, a hyrwyddo dealltwriaeth a mwynhad tawel ohonynt er budd pawb.

2.      Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yw'r elusen gofrestredig a sefydlwyd ym 1895 I hyrwyddo cadwraeth parhaol o lefydd o ddiddordeb hanesyddol neu harddwch naturiol er lles y genedl.  Mae'n gweithredu'r amcan yma drwy berchenogaeth a rheolaeth o eiddo a thrwy ddadleuaeth a phartneriaeth.  Mae'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru yn berchen ar ac yn gofalu am 138 milltir o arfordir gan gynnwys rhannau helaeth ym Mharciau Cenedlaethol Penfro ac Eryri.  Mae hefyd yn berchen ar 43,130 ha o dir yng Nghymru, llawer ohono yn Eryri, Penfro a Bannau Brycheiniog.

3.      Ymgyrch Diogelu Cymru Wledig (YDCW) yw'r prif fudiad dylanwadu Cymreig ar gadwraeth.  Ymgyrcha dros ystod eang o faterion amgylcheddol gan geisio cadw cyd-bwysedd rhwng defnydd cyfrifol o'n cefn gwlad a diogelu ei dirwedd a'i fywyd gwyllt ar ran y trigolion a'r ymwelwyr fel e'i gilydd.

4.      Elusen yw Cyfeillion Parc Cenedlaethol Penfro sydd wedi ymrwymo i helpu gwarchod, a hybu Parc Cenedlaethol Arfordi Penfro i bawb fwynhau.  Nid oes ganddo unrhyw gysylltiadau ariannol na gweinyddol gydag Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro.

5.      Rhif Cais Datblygiad Arfaethedig Bluestone, Sir Benfro: 02/0900/PA i'w benderfynu gan Gyngor Sir Penfro; Rhif Cais Datblygiad Arfaethedig Bluestone, Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro: 02570 i'w benderfynu gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro.

6.      O lythyr i CPC oddi wrth yr Adran Gynllunio, dyddiedig 23 Gorfennaf 2003, sy'n datgan penderfyniad y Gweinidog i beidio â galw'r cais i fewn.

7.      Datganiad i'r Wasg Llywodraeth Cynulliad Cymru (13 Tachwedd 2002) 'Andrew Davies backs flagship project for West Wales'

8.      Pwyllgor Datblygu Economi y Cynulliad Cenedlaethol, 14 Tachwedd 2002.

For press queries please contact:
Ruth Chambers, Head of Policy on
020 7924 4077 ext. 222