Tirlun Tragwyddol - Parciau Cenedlaethol Cymru

31 Awst 2005

"Tirlun Tragwyddol - Parciau Cenedlaethol Cymru", yw teitl arddangosfa gyffrous o weithiau newydd gan Rowan Huntley, yr artist tirwedd sy'n gweithio yng Nghaerdydd.  Cafodd yr arddangosfa liwgar hon ei llwyfannu'n benodol er budd Cyngor y Parciau Cenedlaethol (CPC), yr elusen genedlaethol sy'n gweithio i warchod a gwella Parciau Cenedlaethol Cymru a Lloegr ac ardaloedd sy'n haeddu statws Parc Cenedlaethol.

Caiff yr arddangosfa ei chynnal ym Mynydd Gwefru, Llanberis, o'r 5ed o Fedi.  Mae'n darlunio prydferthwch ac amrywiaeth Parciau Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, Arfordir Penfro ac Eryri.  Mae 'tirlun tragwyddol' yn gasgliad trawiadol o beintiadau, o'r cyfarwydd i'r cudd.  Mae mynyddoedd, rhaeadrau, rhostir, a chlogwyni môr i gyd yn cael lle amlwg, gyda gwybodaeth sy'n nodi pam mae'r Parciau Cenedlaethol yn bod a phwysigrwydd eu gwarchod.

Dywed Rowan Huntley: "Mae addysg ar arwyddocâd dynodi Parc Cenedlaethol a chynnal y statws hwn yn arwain at well dealltwriaeth o'r gwaith sy'n glwm wrth warchod ein hamgylchedd naturiol i'r dyfodol.  Rwy'n gobeithio y bydd 'Tirlun Tragwyddol - Parciau Cenedlaethol Cymru" yn cyfrannu at yr addysg hon mewn modd arwyddocaol ac y bydd yn codi arian i gynorthwyo CPC i barhau ei waith allweddol bwysig."

Meddai Syr Chris Bonington, Is-lywydd Oes Anrhydeddus Cyngor y Parciau Cenedlaethol, "Mae'r arddangosfa hon yn ffordd gyffrous a newydd o dynnu sylw at bwysigrwydd ein Parciau Cenedlaethol a gwaith allweddol CPC.  Mae 'Tirlun Tragwyddol', sy'n hudo'r llygad, yn dathlu amrywiaeth a phrydferthwch Parciau Cenedlaethol Cymru ac mae'n dangos yn arbennig yr angen mawr i barhau i warchod y rhain a mannau eraill tebyg yn y DU."

Mae'r Arddangosfa ar agor o  Medi 5 - 25 yng Nghanolfan Ymwelwyr y Mynydd Gwefru, Llanberis.  Mae mynediad am ddim.  Mae gwybodaeth bellach ar gael yn  www.rowanhuntley.co.uk

Nodiadau i Olygyddion

1.      Am ragor o wybodaeth cysylltwch â Carys Howell (e-bost carys.howell@ntlworld.com Ffôn 029 2063 0668 neu 07887 955616

2.      Ffotograffau ar gael ar gais.

3.      Cyngor y Parciau Cenedlaethol yw'r unig elusen genedlaethol sy'n gweithio i warchod a hybu Parciau Cenedlaethol Cymru a Lloegr ac ardaloedd sy'n teilyngu statws Parciau Cenedlaethol, a hyrwyddo dealltwriaeth a mwynhad tawel ohonynt er budd pawb.

4.      Am ragor o wybodaeth am CPC neu i ddod yn aelod o "Gyfeillion Parciau Cenedlaethol" ewch i  www.cnp.org.uk neu ffoniwch 020 7924 4077.

Cyswllt: Carys Howell ar 029 2063 0668 neu 07887 955616

For press queries please contact:
Ruth Chambers, Head of Policy on
020 7924 4077 ext. 222