PARCIAU CENEDLAETHOL Y DU AR Y LLWYFAN RHYNGWLADOL
29 Awst 2003
Bydd sylw'r byd ar waith arloesol Parciau Cenedlaethol y DU ar ennill cynulleidfaoedd newydd yn ystod Cyngres Parciau'r Byd (1) yn Durban, De Affrica ym mis Medi.
Bydd Cyngor y Parciau Cenedlaethol (2) a'r Black Environment Network (3) yn tynnu sylw at brosiect Mosaic, sydd â'r nod o gyflwyno pobl o leiafrifoedd ethnig i Barciau Cenedlaethol a'u cael i gyfrannu at ofalu am y Parciau.
Caiff Cyngres Parciau'r Byd, a agorir gan Nelson Mandela, ei chynnal unwaith bob deng mlynedd, a bydd 2,500 o arbenigwyr ar Barciau Cenedlaethol a mannau cadwraeth eraill yn ymgasglu o bob rhan o'r byd. Cafodd Cyngresau'r gorffennol effaith enfawr wrth gynorthwyo llywodraethau cenedlaethol i greu ardaloedd cadwraeth newydd, a chyfeirio mwy o adnoddau at fioamrywiaeth a gwarchod tirweddau.
Thema Cyngres Durban yw "Manteision y tu hwnt i Ffiniau" sy'n cyfleu'r syniad y gall mannau cadwraeth fod o fudd i'r gymdeithas gyfan, gan gynnwys pobl sy'n byw mewn dinasoedd. Mae Cyngor y Parciau Cenedlaethol yn cynhyrchu adroddiad (4) sy'n rhoi llawer o enghreifftiau o sut mae tirweddau cadwraeth y DU yn rhoi manteision ehangach.
Mae prosiect Mosaic (5) wedi bod yn rhedeg am fwy na dwy flynedd ac mae wedi cyflwyno o leiaf 21 o grwpiau cymuned ethnig o ardaloedd trefol i wyth Parc Cenedlaethol yng Nghymru a Lloegr. Mae aelodau grŵp o bob oed wedi mwynhau amrywiaeth o brofiadau gan gynnwys tro hamddenol, canwio a dringo.
"Mae'r Parciau Cenedlaethol i bawb", meddai Jessica Nar, swyddog prosiect Mosaic, a fydd yn cynrychioli'r prosiect yn Durban. "Rydyn ni wedi bod yn gweithio gyda chyrff y Parciau Cenedlaethol a grwpiau cymunedol i adeiladu cysylltiadau cryfach rhwng mannau trefol a gwledig. Mae hi wedi bod yn llwyddiannus iawn hyd yn hyn, ac mae modd estyn y gwersi a ddysgon ni i grwpiau mewn ardaloedd eraill. Ein nod yw cael mwy o bobl i ddeall ystyr cadwraeth a'r cyfleoedd y mae gwlad brydferth yn eu cynnig".
For press queries please contact:
Ruth Chambers, Head of Policy on
020 7924 4077 ext. 222
