Ysbryd cymunedol yn helpu I warchod parc cenedlaethol
28 Mawrth 2007
Mae Cyngor y Parciau Cenedlaethol (CPC) (1) wrth ei fodd â’r penderfyniad ar 26 Mawrth gan Awdurdod Parc Bannau Brycheiniog i wrthod newidiadau i gynllun datblygu’r awdurdod a fyddai wedi gwarchod dyddodion tywod a graean yn y Parc Cenedlaethol.
Pleidleisiodd aelodau o Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn unfrydol i wrthod y cyfarwyddyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru i gynnwys ardaloedd wedi eu gwarchod a allai gael eu defnyddio ar gyfer chwarela tywod a graean yn y dyfodol ar y sail nad yw’r polisi cenedlaethol yn berthnasol ac felly fod y cyfarwyddyd heb sail gadarn.
Yn ystod ymchwiliad cyhoeddus archwiliwyd yn drylwyr gan Arolygydd annibynnol adroddiad a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru ar natur ac ansawdd yr ardaloedd a glustnodwyd (2). Daeth yr Arolygydd i’r casgliad nad oedd digon o dystiolaeth am ansawdd i gwrdd â’r gofynion am warchod fel y nodwyd gan ganllawiau cynllunio Llywodraeth y Cynulliad ei hun (3) ac ‘nad oes prawf fod dyddodion hyfyw yn bod o fewn y parc’. Roedd hi hefyd yn amau dilysrwydd polisi Llywodraeth Cynulliad Cymru ar warchod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.
Caiff Cynllun Datblygu Unedol yr Awdurdod yn awr ei dderbyn ar gyfer dibenion rheoli datblygiad ac eithrio’r mannau a warchodwyd. Mae hyn yn fuddugoliaeth i bartneriaeth o Gynghorau Cymuned ac i Gyngor Cenedlaethol y Parciau Cenedlaethol, a ddadleuodd yn gyson yn erbyn cynnwys y polisi.
Meddai Oriel Price, Swyddog Polisi dros Gyngor y Parciau Cenedlaethol, “Mae CPC yn cefnogi’n frwd benderfyniad Awdurdod y Parc Cenedlaethol i wrthsefyll y polisi gwarchod hwn. Mae’n rhaid amau honiad Llywodraeth y Cynulliad bod polisi o’r fath yn briodol mewn Parc Cenedlaethol, yn enwedig gan na fu erioed sôn am warchod dyddodion mwynol mewn Parciau Cenedlaethol mewn rhannau eraill o’r DU. Mewn ardaloedd lle mae gwarchod yn beth cyffredin, mae angen gwybod am yr adnoddau mwynol o ran ansawdd a swm cyn y gall gwarchod ddigwydd. Gan na chafwyd prawf am natur yr adnodd lle mae’r mannau mwynol honedig hyn yn digwydd ym Mannau Brycheiniog , byddai gwarchod wedi bod yn erbyn y cyngor polisi cenedlaethol, felly mae modd cyfiawnhau’n llwyr benderfyniad aelodau Awdurdod y Parc i wrthod gwarchod.
“Ym mis Awst 2007 bydd ymgynghoriad ar y Cynllun Datblygu Lleol newydd yn dechrau a bydd hyn gobeithio’n ystyried argymhellion Adroddiad yr Arolygydd annibynnol.”
Nodiadau i olygyddion
1. Cyngor y Parciau Cenedlaethol (CPC) yw’r elusen genedlaethol sy’n gweithio i warchod a gwella Parciau Cenedlaethol Cymru a Lloegr, a’r ardaloedd sy’n haeddu statws Parc Cenedlaethol, ac i hyrwyddo dealltwriaeth a mwynhad didramgwydd ohonynt er budd pawb.
2. Paratowyd Adroddiad yr Arolygydd ar Gynllun Datblygu Unedol Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn dilyn ymchwiliad cyhoeddus a gynhaliwyd rhwng 19 Hydref 2005 ac 14 Rhagfyr 2005 a gellir ei weld ar wefan Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn:
Brecon UDP Report Covering Letter <http://www.breconbeacons.org/authority/localplan/BreconUDPReportCoveringLetter.pdf> (Llythyr eglurhaol Adroddiad CDU Brycheiniog)
Brecon UDP Report (Adroddiad CDU Brycheiniog)
3. Polisi Cynllunio Mwynau i Gymru, Llywodraeth Cynulliad Cymru, Rhagfyr 2000.
Cyswllt: Oriel Price, Swyddog Polisi Cymru, Ffôn 01495 724751/07779 718244
Ruth Chambers, Prif Weithredwr Gweithredol a Phennaeth Polisi, Ffôn 020 7924 4077 est. 222.
For press queries please contact:
Ruth Chambers, Head of Policy on
020 7924 4077 ext. 222
