'Gwrthodwch Y Garreg Las' Medd Apêl i'r Parc
24th Tachwedd 2003
"Sefwch yn gadarn - gwarchodwch ein Parciau Cenedlaethol drwy wrthod cynllun niweidiol Y Garreg Las", yw'r annogaeth oddi wrth yr elusen genedlaethol Cyngor y Parciau Cenedlaethol (CPC) (1) i aelodau Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro.
Mewn llythyr at bob aelod o'r Awdurdod, mae CPC yn gofyn iddynt osod gwarchodaeth Parciau Cenedlaethol wrth wraidd eu penderfyniad pan fyddant yn cyfarfod (2) i drafod cynigion pentref twristiaeth Y Garreg Las (3).
Dywedodd Pennaeth Polisi CPC, Ruth Chambers: "Mae aelodau'r Parc Cenedlaethol wedi eu rhwymo'n gyfreithiol i osod gwarchodaeth Parciau Cenedlaethol wrth wraidd eu penderfyniad. Rydyn ni wedi cymryd y cam digynsail o ysgrifennu at bob aelod i'w hatgoffa o'u cyfrifoldebau ac i ofyn iddynt wrthod cynigion niweidiol Y Garreg Las."
"Mae CPC yn meddwl bod caniatau pentref twristiaeth enfawr ar dir agored cefn gwlad yn gosod cynsail pryderus i'r Parc Cenedlaethol yma ac eraill. Rydyn ni'n gwbl gytûn fod angen i wella lles economaidd y bobl sy'n byw yn y Parc Cenedlaethol, ond dydyn ni ddim yn derbyn mai caniatau'r datblygiad mawr hwn mewn lleoliad mor sensitif yw'r ffordd orau o gyrraedd y nod."
Gorffennodd Ruth Chambers: "Mae hwn yn brawf eithaf o ymrwymiad yr Awdurdod i warchod y Parc Cenedlaethol. Er bod aelodau'r Awdurdod wedi eu rhoi dan gryn bwysau gwleidyddol i gymeradwyo'r datblygiad, rydyn ni'n gobeithio y byddant yn sefyll yn gadarn ac yn cofio eu prif rôl fel gwarchodion yr adnodd genedlaethol gwerthfawr yma drwy wrthod cynigion Y Garreg Las."
Nodiadau i Olygyddion
1. Cyngor y Parciau Cenedlaethol yw'r elusen genedlaethol sy'n gweithio i warchod a hybu Parciau Cenedlaethol Cymru a Lloegr, ac ardaloedd sy'n teilyngu statws Parciau Cenedlaethol, a hyrwyddo dealltwriaeth a mwynhad tawel ohonynt er budd pawb.
2. Fe fydd Pwyllgor Rheoli Datblygiad Awdurdod Parc Cendlaethol Arfordir Penfro yn cyfarfod i benderfynu ar y cynigion mewn cyfarfod ar 1 Rhagfyr am 2.00yp yn Neuadd y Frenhines, Arberth.
3. Mae'r rhan o'r datblygiad sydd o fewn y Parc Cenedlaethol yn cynnwys 340 bwthyn pren (a fewnforir o Estonia), pentref newydd sbon, clwb chwaraeon a gweithfeydd trin carffosiaeth.
4. Mae Adrannau 61 a 62 o Ddeddf yr Amgylchedd 1995 yn dweud mai amcanion Parciau Cenedlaethol yw i warchod a gwella harddwch naturiol, bywyd gwyllt a threftadaeth diwylliannol y Parciau ac i hybu cyfleoedd i'r cyhoedd ddeall a mwynhau rhinweddau arbennig y Parc. Lle bod gwrthdaro rhwng yr amcanion uchod, rhaid i warchodaeth achub y blaen.
For press queries please contact:
Ruth Chambers, Head of Policy on
020 7924 4077 ext. 222
