Adroddiad Ynni: darnau o’r jig-so yn eisiau

21 Ionawr 2003 

Mae Cyngor y Parciau Cenedlaethol (CyPC) [1] yn croesawu cyhoeddi Adroddiad Pwyllgor Datblygu’r Economi ar Ynni Adnewyddadwy sydd yn cael ei drafod heddiw [2] gan y Cynulliad, ond mae’n siomedig iawn bod y Pwyllgor wedi anwybyddu darnau hanfodol o’r jig-so sy’n sylfaenol i anghenion arbennig Cymru.

Mae CyPC yn cymeradwyo’r Adroddiad am ddymuno hyrwyddo’r cynhyrchiant o ynni adnewyddadwy yng Nghymru mewn ffordd sy’n sensitif i’w leoliad, ac am ystyried fod lleoliad a maint datblygiadau yn hanfodol bwysig.  Mae’n cytuno na ddylai twristiaeth ac ardaloedd o bwysigrwydd amgylcheddol gael eu niweidio.

Asedau amhrisiadwy yw’r Parciau Cenedlaethol, sy’n perthyn i’r genedl gyfan.  Felly mae’n rhaid i ni feddwl am ddatblygiad ynni adnewyddadwy ynddynt mewn ffordd arbennig.  Mae yn y Parciau Cenedlaethol esiamplau rhagorol eisoes sy’n dangos sut y gall ynni adnewyddadwy gael ei ddatblygu mewn modd sydd parchu ein tirluniau arbennig.  Ond yn anffodus, mae Adroddiad y Pwyllgor fwy neu lai yn anwybyddu cynhyrchiant ynni ar raddfa fach.  Dymuna CyPC y Cynulliad gydnabod y gallai’r prosiectau canlynol [3] sydd yn ein Parciau Cenedlaethol gyfrannu’n sylweddol at ennill enw da i Gymru yn y maes ynni adnewyddadwy:

o      Ynni o lanw’r môr – prosiect arloesol dan ddatblygiad peirianwyr lleol yn Arfordir Penfro

o      SEED (Sustainable Energy and Environmental Development) – yn codi ymwybyddiaeth o ynni adnewyddadwy ar raddfa fach ym Mhenfro

o      Partneriaeth Biodanwydd Penfro – astudiaeth dichonoldeb trawsnewid sustem gwresogi

o      Prosiect Biomass Penpont – astudiaeth dichonoldeb cynhyrchu ynni o bren lleol

o      Clwb Solar Bannau Brycheiniog – yr unig glwb solar yng Nghymru sy’n cynnig grantiau i berchnogion t i osod paneli solar

o      Hostel Ieuenctid Bwthyn Idwal – hostel ‘gwyrdd’

Dywedodd Sylvia Davies, Uwch-Swyddog Polisi CyPC, “Mae cymunedau a mentrau yn y Parciau Cenedlaethol yn arloesi prosiectau ynni adnewyddadwy sy’n adlewyrchu gwerth eu safleoedd arbennig.  Maent yn fach ac yn ‘ddynol’ yn eu graddfa.  Mae CyPC yn annog y Cynulliad i edrych ar y raddfa fach yn ogystal â’r raddfa fawr, ac i edrych ar y jig-so ynni yn ei gyfanrwydd.

“Byddai nifer o ddatblygiadau ar raddfa fach, lle mae pawb yn gwneud eu rhan, yn cael effaith enfawr at ei gilydd.  Dylai’r Cynulliad estyn cymorth i hybu’r Parciau Cenedlaethol a’u tirweddau arbennig i lenwi’r darnau bach o’r jig-so.”

Nodiadau i Olygyddion

1.       Cyngor y Parciau Cenedlaethol yw’r unig elusen genedlaethol sy’n gweithio i warchod a hybu Parciau Cenedlaethol Cymru a Lloegr ac ardaloedd sy’n teilyngu statws Parciau Cenedlaethol, a hyrwyddo dealltwriaeth a mwynhad tawel ohonynt er budd pawb.

2.       Mae Adroddiad Pwyllgor Datblygu’r Economi dan drafodaeth yn y Cynulliad heddiw, y 21ain o Ionawr.

3.       Rhan-gyllidwyd y prosiectau yma i gyd gan y Gronfa Datblygu Cynaladwy, sef Cronfa a sefydlwyd gan y Cynulliad ac a weinyddir gan y tri Pharc Cenedlaethol yng Nghymru i arbrofi prosiectau datblygu cynaladwy mewn partneriaeth yn eu bröydd.

For press queries please contact:
Ruth Chambers, Head of Policy on
020 7924 4077 ext. 222