GWRTHOD APÊL Y GARREG LAS YN 'HYNOD O SIOMEDIG'

 20 Gorffennaf 2005

Mae'r Llys Apêl wedi colli cyfle i egluro'r rheolau cyfreithiol ar gyfer penderfynu ar geisiadau cynllunio mawr yn y Parciau Cenedlaethol (1), dyna honiad Cyngor y Parciau Cenedlaethol (CPC).  Mae'r Llys heddiw wedi gwrthod her gan CPC (2) yn erbyn dyfarniad yr Uchel Lys (3) wedi i Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro (4) gymeradwyo pentref gwyliau'r Garreg Las.

Meddai Ruth Chambers, Pennaeth Polisi CPC: "Mae caniatáu i bentref gwyliau'r Garreg Las fynd yn ei flaen wedi cymylu'r dyfroedd i'r cyhoedd a datblygwyr.  Mae dyfarniad y Llys wedi colli cyfle i egluro'r rheolau sy'n ymwneud â datblygiadau mawr yn y Parciau Cenedlaethol".

Ychwanegodd Sylvia Davies, Swyddog Materion Cymreig CPC: "Mae'r dyfarniad hwn yn mynd yn erbyn arolwg diweddar (5) o'r cyhoedd a ddangosodd fod 57% o bobl yn ymweld â Pharciau Cenedlaethol am eu golygfeydd dramatig a 56% yn dod i gael heddwch a llonyddwch.  Caiff y nodweddion hyn eu chwalu gan ddatblygiad y Garreg Las".

Meddai Ruth Chambers i gloi: "Mae'r dyfarniad hwn yn hynod o siomedig i bawb sy'n poeni am warchod Parciau Cenedlaethol ac o ganlyniad rydym yn ystyried y posibilrwydd o apêl derfynol i Dŷ'r Arglwyddi".

Nodiadau i Olygyddion

1.       Clywodd y Llys Apêl yr apêl ar 17 Mehefin 2005.  Rhoddwyd y dyfarniad ddydd Mercher 20 Gorffennaf yn Llys Rhif 75 yn y Llysoedd Barn Brenhinol.

2.       CPC yw'r elusen genedlaethol sy'n gweithio i warchod a chyfoethogi Parciau Cenedlaethol Cymru a Lloegr, ac ardaloedd sy'n haeddu statws Parc Cenedlaethol, ac i hyrwyddo dealltwriaeth a mwynhad di-rwystr ohonynt er lles pawb.

3.       Ar 17 Rhagfyr 2004 dyfarnodd y Barnwr Uchel Lys Mr Ustus Jack fod y penderfyniad i roi caniatâd i ddatblygiad y Garreg Las - yn cynnwys 340 o gabanau pren, "pentref" newydd sbon, clwb chwaraeon a gwaith trin carthffosiaeth - yn gyfreithlon. 

4.    Cymeradwyodd pwllgor rheoli datblygiadau Awdurdod y Parc y cais cynllunio amlinellol ar 28 Ionawr 2004.

5.    Cynhaliwyd yr arolwg "Awyr Agored Braf" i Gymdeithas Awdurdodau'r Parciau Cenedlaethol.

Cyswllt:  Ruth Chambers, Pennaeth Polisi, 020 7924 4077 est. 222 / 07769 676 397

                Sylvia Davies, Swyddog Materion Cymreig, 029 2045 0433 / 07779 718 224

For press queries please contact:
Ruth Chambers, Head of Policy on
020 7924 4077 ext. 222