Canllaw Newydd I Barciau Cenedlaethol Cymru

19 Mawrth 2007  

Mae Cyngor y Parciau Cenedlaethol (CPC) (1) wedi croesawu Datganiad Polisi newydd ar gyfer Parciau Cenedlaethol yng Nghymru, a lansiwyd heddiw.
 
Mae’r Datganiad yn nodi agenda strategol ar gyfer Awdurdodau Parciau Cenedlaethol (APCau) er mwyn bwrw ati i weithredu nodau datblygu cynaliadwy a chynhwysiant cymdeithasol Llywodraeth Cynulliad Cymru, a darparu canllaw ar sut gallan nhw helpu i fynd i’r afael ag achosion newid hinsawdd.
 
Cafodd y datganiad hwn, yr oedd disgwyl mawr amdano, ei lansio’n swyddogol gan y dirprwy Weinidog dros yr Amgylchedd, Cynllunio a Chefn Gwlad, Tamsin Dunwoody AC yn Arfordir Penfro.  Nod y datganiad hwn yw rhoi canllaw strategol, clir i Awdurdodau Parciau Cenedlaethol (APCau) ac amrywiaeth eang o sefydliadau sy’n gweithio yn y Parciau Cenedlaethol neu’n agos atynt, neu sy’n gwneud gwaith yno.
 
Dywedodd Oriel Price, Swyddog Polisi Cymru dros Cyngor y Parciau Cenedlaethol, “Mae croeso mawr i’r Datganiad Polisi newydd a bu disgwyl mawr am y darn hwn o jig-so’r polisi sy’n rhoi canllaw i rai sy’n gweithio ac yn byw yn y tirweddau prydferth hyn, yn ogystal â’r rhai sy’n poeni am eu dyfodol.  Fel gwlad ag un o’r canrannau uchaf o ardaloedd wedi’u gwarchod (2) mae hi’n hanfodol bod gweledigaeth gytûn yng Nghymru ar ddyfodol y parciau, gan gynnwys sut gallan nhw ddod yn esiamplau o ddatblygu cynaliadwy, er enghraifft ar reoli tir, cludiant a gwarchod bywyd gwyllt.  Rydyn ni’n edrych ymlaen at weithio gyda Llywodraeth y Cynulliad a’r APCau i weithredu’r weledigaeth hon”.
 
Ar ôl pedair blynedd caiff cynnwys y Datganiad Polisi ei adolygu gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, gan ymgynghori â’r rhanddeiliaid allweddol, a chaiff datganiad diwygiedig/cyfoes ei gynhyrchu.
 
Nodyn i olygyddion
1.       Cyngor y Parciau Cenedlaethol (CPC) yw’r elusen genedlaethol sy’n gweithio i warchod a gwella Parciau Cenedlaethol Cymru a Lloegr, a’r ardaloedd sy’n haeddu statws Parc Cenedlaethol, ac i hyrwyddo dealltwriaeth a mwynhad didramgwydd ohonynt er budd pawb.
2.       Mae 20% o dir Cymru wedi ei ddynodi’n Barc Cenedlaethol.  Maer tri pharc Cenedlaethol yng Nghymru: Eryri, Arfordir Penfro a Bannau Brycheiniog.
3.       Bydd y datganiad hwn ar gael ar dudalennau Parciau Cenedlaethol gwefan Llywodraeth Cynulliad Cymru yn http://new.wales.gov.uk/topics/environmentcountryside/env_cons_management/countryside_coastal_access/np_wales/?lang=en
 
Cysylltwch ag: Oriel Price, Swyddog Polisi Cymru, Ffôn 01495 724751/07779 718244

For press queries please contact:
Ruth Chambers, Head of Policy on
020 7924 4077 ext. 222