DYFARNIAD Y GARREG LAS YN PERI SIOM
17eg Rhagfyr 2004
Mae Cyngor y Parciau Cenedlaethol (CPC) (1) wedi datgan ei fod wedi ei siomi'n difrifol gan ddyfarniad barnwr Uchel Lys nad oedd penderfyniad Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro (2) i roi caniatād cynllunio amlinellol i bentref gwyliau'r Garreg Las (3&4) yn anghyfreithlon.
Mae CPC yn siomedig fod y barnwr Mr Ustus Jack wedi anghytuno ā dadleuon bod Awdurdod y Parc wedi torri ei reolau cynllunio ei hun a bod dau aelod o'r pwyllgor cynllunio wedi ymddwyn ā 'thuedd ymddangosiadol' yn ystod y broses o benderfynu.
Meddai Pennaeth Polisi CPC, Ruth Chambers: "Roedd CPC yn ystyried fod yr her yn un gryf a chafodd ei chyflwyno'n rymus gan ein tīm cyfreithiol. Mae'r dyfarniad yn hir a chymhleth ac mae'n codi nifer o faterion sydd angen ystyriaeth ofalus. Bydd Ymddiriedolwyr CPC yn asesu'r rhain dros y tair wythnos nesaf er mwyn ein galluogi i benderfynu ar unrhyw gamau nesaf. Bydd angen i ni gadw mewn cof fanylion y dyfarniad a statws CPC fel elusen fach wrth wneud y penderfyniad hwn."
Nodiadau i Olygyddion
1. Cyngor y Parciau Cenedlaethol yw'r unig elusen genedlaethol sy'n gweithio i warchod a hybu Parciau Cenedlaethol Cymru a Lloegr, ac ardaloedd sy'n haeddu statws Parc Cenedlaethol, a hyrwyddo dealltwriaeth a mwynhad tawel ohonynt er budd pawb.
2. Cymeradwyodd pwyllgor rheoli datblygiad Awdurdod y Parc y cais cynllunio amlinellol ar 28 Ionawr 2004. Gan fod cais y Garreg Las yn gwrthdaro ā pholisļau'r Awdurdod, cafodd ei hysbysebu fel gwyriad.
3. Mae'r datblygiad o fewn y Parc Cenedlaethol yn cynnwys 340 o gabanau pren a fyddai'n cael eu mewnforio o Estonia, pentref newydd sbon, clwb chwaraeon a gwaith trin carthffosiaeth.
4. Byddai datblygiad y Garreg Las yn ffurfio'r trydydd anheddiad mwyaf yn y Parc Cenedlaethol, ar ōl Dinbych y Pysgod a Saundersfoot.
Cysylltwch ā: Ruth Chambers, Pennaeth Polisi: 020 7924 4077 est. 222
For press queries please contact:
Ruth Chambers, Head of Policy on
020 7924 4077 ext. 222
