DYDD Y FARN AR DDOD I’R GARREG LAS
17 Tachwedd 2004
Wythnos nesaf bydd Barnwr Uchel Lys yn clywed dadleuon a fydd yn penderfynu dyfodol datblygiad Y Garreg Las, y bwriedir iddo gael ei adeiladu ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Penfro. Mae Cyngor y Parciau Cenedlaethol (CPC) (1) yn mynd ati i wneud her gyfreithiol na welwyd ei math o’r blaen (2) i benderfyniad Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro (3) i roi caniatâd amlinellol i ddatblygiad y Garreg Las (4) ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Penfro.
Bydd gwrandawiad yr Uchel Lys yn digwydd yn Abertawe (5) rhwng Tachwedd 23 a 25, lle y bydd barnwr yn clywed dadleuon (6) gan fargyfreithwyr yn cynrychioli CPC, Awdurdod y Parc Cenedlaethol a datblygydd y Garreg Las. Nid yw’r barnwr serch hynny yn debyg o roi ei ddyfarniad ar unwaith a bydd yn gwneud hyn yn ddiweddarach, rai wythnosau ar ôl y gwrandawiad yn ôl pob tebyg.
Meddai Ruth Chambers, Pennaeth Polisi CPC: “Mae CPC yn edrych ymlaen yn fawr at y cyfle i gyflwyno ein pryderon am y penderfyniad ar y Garreg Las i farnwr yr Uchel Lys. Rydyn ni wedi cymryd y cam arloesol o fynd i’r llys oherwydd maint datblygiad y Garreg Las. Mae’n gwbl amhriodol mewn Parc Cenedlaethol ac rydyn ni o’r farn nad yw Awdurdod y Parc Cenedlaethol wedi cyfiawnhau’n ddigonol pam y gweithredodd yn erbyn polisïau cenedlaethol a lleol. Rydyn ni hefyd yn poeni am y rôl a chwaraeodd aelodau o Gyngor Sir Benfro ym mhenderfyniad Awdurdod y Parc Cenedlaethol i roi caniatâd cynllunio amlinellol. Byddwn yn annog y barnwr i gefnogi ein pryderon a dileu’r caniatâd cynllunio am yr hyn sy’n cyfateb i dref newydd (7) mewn ardal wledig, brydferth sydd heb ei difetha.”
Nodiadau i Olygyddion
1. Cyngor y Parciau Cenedlaethol yw’r unig elusen genedlaethol sy’n gweithio i warchod a hybu Parciau Cenedlaethol Cymru a Lloegr, ac ardaloedd sy’n haeddu statws Parc Cenedlaethol, a hyrwyddo dealltwriaeth a mwynhad tawel ohonynt er budd pawb.
2. Sefydlwyd CPC yn 1936 ac nid yw erioed o’r blaen wedi gwneud cais am arolwg barnwrol o benderfyniad cynllunio gan Awdurdod Parc Cenedlaethol. Mae’r ffaith fod hyn yn digwydd yn achos datblygiad y Garreg Las yn arwydd o bryderon difrifol CPC am y niwed y bydd y datblygiad hwn yn ei achosi i Barc Cenedlaethol Arfordir Penfro a’r gynsail a fyddai’n cael ei gosod pe na bai’r caniatâd cynllunio hwn yn cael ei wrthod.
3. Cymeradwyodd pwyllgor rheoli datblygiad Awdurdod y Parc y cais cynllunio amlinellol ar 28 Ionawr 2004. Am fod cais y Garreg Las yn gwrthdaro â pholisïau’r Awdurdod ei hun, cafodd ei hysbysebu fel gwyriad.
4. Mae’r datblygiad o fewn y Parc Cenedlaethol yn cynnwys 340 o gabanau pren a fyddai’n cael eu mewnforio o Estonia, pentref newydd sbon, clwb chwaraeon a gwaith trin carthffosiaeth.
6. Mae copïau o ddatganiadau tystion CPC a fframwaith cyfreithiol ar gael yn electronig.
7. Byddai datblygiad y Garreg Las yn ffurfio’r trydydd anheddiad mwyaf yn y Parc Cenedlaethol, ar ôl Dinbych y Pysgod a Saundersfoot.
For press queries please contact:
Ruth Chambers, Head of Policy on
020 7924 4077 ext. 222
