DYFARNIAD COSTAU PARC CENEDLAETHOL Yn HWB I GAIS AM APÊL
17 Ionawr 2005
Mae dyfarniad "er budd y cyhoedd" yn yr Uchel Lys heddiw (17 Ionawr) (1) wedi rhoi hwb i ragolygon Cyngor y Parciau Cenedlaethol (CPC) (2) yn ei frwydr yn erbyn Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro i rwystro "pentref gwyliau" rhag halogi cefn gwlad y Parc.
Ar 17 Rhagfyr dyfarnodd Mr Ustus Jack bod y penderfyniad (3) i roi caniatad i ddatblygiad y Garreg Las - sy'n cynnwys 340 o fythynnod pren, "pentref" newydd sbon, clwb chwaraeon a gweithfeydd trin carthffosiaeth - yn gyfreithlon.
Ond mae CPC wedi clywed oddi wrth y barnwr na fydd yn rhaid i'r mudiad dalu costau cyfreithiol Awdurdod y Parc. Wrth groesawu'r penderfyniad, dywedodd Ruth Chambers, Pennaeth Polisi CPC: 'Roedd CPC wedi dadlau mai her "er budd y cyhoedd" oedd yr her i'r caniatad cynllunio a roddwyd i gynllun Y Garreg Las. Bu i'r barnwr dderbyn y ddadl a bu iddo hefyd gymryd i ystyriaeth statws elusennol CPC wrth ddod i'w benderfyniad i beidio gorchymyn costau yng nghyswllt Awdurdod y Parc Cenedlaethol na'r datblygwr fel ei gilydd. Ry'n ni'n croesawu penderfyniad y barnwr ar gostau yn fawr. Mae'r penderfyniad yn torri cwys newydd i bawb sy'n brwydro am fynediad well i gyfundrefn y llysoedd barn.
'Ry'n ni wrthi nawr yn paratoi cais am ganiatad i apelio. Bydd y cais yn cael ei gyflwyno i Lys yr Apêl. Yn ein tyb ni mae gennym obaith dda o gael llwyddiant oherwydd y diddordeb cyhoeddus ehangach mae'r dyfarniad wedi ei ysgogi yn sgîl y ffordd y mae'r barnwr wedi dehongli cyfraith cynllunio.'
Nodiadau i Olygyddion
1. Cafodd y dyfarniad ar gostau gan Mr Ustus Jack ei draddodi ar 17 Ionawr 2005 yn y Llysoedd Barn Brenhinol , Y Strand, Llundain.
2. CPC yw'r elusen genedlaethol sy'n gweithio i warchod a hybu Parciau Cenedlaethol Cymru a Lloegr ac ardaloedd sy'n teilyngu statws Parciau Cenedlaethol, a hyrwyddo dealltwriaeth a mwynhad tawel ohonynt er budd pawb.
3. Bu i bwyllgor rheoli datblygiad Awdurdod y Parc gymeradwyo'r cais cynllunio amlinellol ar 28 Ionawr 2004.
Cyswllt: Ruth Chambers (07769 676 397) neu Ralph Underhill (020 7924 4077 x 232)
For press queries please contact:
Ruth Chambers, Head of Policy on
020 7924 4077 ext. 222
