Corff Gwarchodol y Parciau yn Melltithio'r Cynulliad

16 Ionawr 2004

Mae corff gwarchodol y Parciau Cenedlaethol, Cyngor y Parciau Cenedlaethol (CPC) (1) wedi melltithio penderfyniad Llywodraeth y Cynulliad i beidio a galw i fewn y cais cynllunio dadleuol Y Garreg Las (2) ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Penfro.

Dywedodd Pennaeth Polisi CPC Ruth Chambers: "mae'r penderfyniad hwn yn mynd yn groes i bolisi Llywodraeth y Cynulliad ei hun ar y cwestiwn o pryd y dylai ymyrryd ar faterion cynllunio, gan ei fod yn cyrraedd pump o'r chwe maen prawf a ddefnyddir i ddod i benderfyniad (3).  Ry'n ni'n siomedig iawn bod Llywodraeth y Cynulliad wedi gwrthod cydnabod y materion cenedlaethol sydd yn y fantol.  Yn ein barn ni, mae Llywodraeth y Cynulliad wedi camfarnu'r cais sydd gerbron.

"Mae'r Gweinidog wedi dod i'r casgliad na fod y cais cynllunio yn cynnwys materion cynllunio a fyddai'n cyfiawnhau cymryd y cyfrifoldeb am benderfynu'r cais oddi wrth Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro.  O wybod bod swyddogion yr Awdurdod ei hun wedi nodi fod y cais hwn yn mynd yn groes i bolisi, yn ogystal â'r niwed y byddai'r datblygiad yn achosi i ran sensitif o'r Parc Cenedlaethol, a hefyd y dadleuon y mae'r cais wedi ennyn ar draws y wlad, mae'n rhaid bod nifer o bobl yn gofyn pryd yn y byd y bydd Llywodraeth y Cynulliad yn ymyrryd mewn mater cynllunio.

"Mae methiant Llywodraeth y Cynulliad i weithredu ar Y Garreg Las yn codi cwestiynau sylfaenol am ei rôl a'i allu i weithredu er lles y Parciau Cenedlaethol.  Dylai'r Gweinidog Carwyn Jones AC a'i swyddogion cynllunio ailfeddwl, oherwydd yn ein tyb ni, mae eu penderfyniad wedi diraddio gwarchodaeth tirwedd y Parciau Cenedlaethol i'r bin sbwriel.  Mae ein Parciau Cenedlaethol wedi eu dynodi er budd y genedl gyfan, ac mae gan Llywodraeth y Cynulliad ddyletswydd i amddiffyn egwyddorion y Parciau Cenedlaethol ar ran y genedl.  Ar sail y tystiolaeth sydd ar gael, mae'n debyg mai ychydig iawn o bwysau a roddir ar y dyletswydd yma, ac mae hwn o bryder mawr."

Gorffennodd Ruth Chambers: "Er y penderfyniad siomedig yma, nid diwedd y daith mohono i'r Garreg Las o bell ffordd.  Y cam nesaf fydd i Awdurdod y Parc Cenedlaethol ddod i benderfyniad terfynol ar roi caniatad cynllunio amlinellol ai peidio i'r datblygiad yma ar 18 Ionawr (4).  Mae nifer sy'n pryderu am y mater yn cysidro her cyfreithiol i unrhyw gymeradwyaeth cynllunio, a chan gofio y byddai hefyd angen caniatâd cynllunio ar y manylion, fe allai hyn i gyd feddwl na fyddai unrhyw ddatblygiad yn debygol o ddechrau am gryn amser i ddod, os o gwbl."

Nodiadau i Olygyddion

1.       Cyngor y Parciau Cenedlaethol (CPC) yw'r elusen genedlaethol sy'n gweithio i warchod a hybu Parciau Cenedlaethol Cymru a Lloegr ac ardaloedd sy'n teilyngu statws Parciau Cenedlaethol, a hyrwyddo dealltwriaeth a mwynhad tawel ohonynt er budd pawb.

2.       Mae'r datblygiad o fewn y Parc Cenedlaethol yn cynnwys 340 bwthyn pren (a fewnforir o Estonia), pentref newydd sbon, clwb chwaraeon a gweithfeydd trin carthffosiaeth.

3.       Cofnodir polisi Llywodraeth y Cynulliad ar pryd y geilw ceisiadau cynllunio i fewn yn Polisi Cynllunio Cymru, paragraff 4.12.

4.       Cyfarfu pwyllgor rheoli datblygu Awdurdod y Parc Cenedlaethol ar 8 Rhagfyr 2003.  Roedd o'r fryd i ganiatáu'r cais amlinellol.  Oherwydd bod cais Y Garreg Las yn tynnu'n groes i bolisiau'r Awdurdod, cyhoeddwyd ef fel cais sy'n gwyro. Mae'n ofynnol ar bwyllgor rheoli datblygu'r Awdurdod, wrth ddilyn amodau gorchwyl y pwyllgor, i ail-ystyried ceisiadau sy'n gwyro ar ôl cyfnod ailfeddwl.  Ail-ystyrir y penderfyniad hwn yng nghyfarfod pwyllgor rheoli datblygu'r Awdurdod ar 28 Ionawr.

For press queries please contact:
Ruth Chambers, Head of Policy on
020 7924 4077 ext. 222