Apêl i'r Gwenidog i Achub Llanast Y Garreg Las
16 Hydref 2003
Heddiw, galwodd y corff gwarchodol Cyngor y Parciau Cenedlaethol (CPC) [1] ar Lywodraeth y Cynulliad Cenedlaethol i alw cynllun arfaethedig Y Garreg Las i fewn [2] ac i gynnal ymchwiliad cyhoeddus. Dywed CPC fod y pwysau gwleidyddol ar aelodau Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfodir Penfro yn bygwth troi egwyddorion y Parciau Cenedlaethol yn destun sbort.
Dywedodd Pennaeth Polisi CPC Ruth Chambers: "Mae aelodau Awdurdod y Parc Cenedlaethol dan bwysau gwleidyddol i gymeradwyo cynllun Y Garreg Las ac fe allai hyn eu rhwystro rhag dod i benderfyniad teg a di-duedd. Mae'r sefyllfa mor ddifrifol fel y gallai cwyn i'r ombwdsman ddilyn".
"O ystyried bod y cynllun arfaethedig hwn yn gymaint o bwnc llosg gwleidyddol, rydyn ni o'r farn na fod dewis arall ar agor i'r Gweinidog ond i amddiffyn y broses cynllunio drwy gymryd y penderfyniad o ddwylo Awdurdod y Parc Cenedlaethol."
I gloi, dywedodd Ruth Chambers: "Wrth alw'r cynllun yma i fewn byddai Carwyn Jones yn ei gwneud hi'n gwbl glir fod Llywodraeth y Cynulliad o ddifrif ynghylch ei ymrwymiad i lywodraethu'n agored, i ddod i benderfyniadau clir, ac i lynu at ei egwyddor craidd o gynaladwyedd. Yn ein tyb ni, byddai gadael y penderfyniad hwn yn nwylo Awdurdod y Parc Cenedlaethol, o ystyried bod yr aelodau wedi eu rhoi dan gryn bwysau i gymeradwyo'r datblygiad, yn erydu ymddiriedaeth y cyhoedd yn y Cynulliad."
Nodiadau i Olygyddion
1. Cyngor y Parciau Cenedlaethol yw'r unig elusen genedlaethol sy'n gweithio i warchod a hybu Parciau Cenedlaethol Cymru a Lloegr ac ardaloedd sy'n teilyngu statws Parciau Cenedlaethol, a hyrwyddo dealltwriaeth a mwynhad tawel ohonynt er budd pawb.
2. Mae'r rhan o'r datblygiad sydd o fewn y Parc Cenedlaethol yn cynnwys 340 bwthyn pren (a fyddai'n cael eu mewnforio o Estonia), pentref newydd sbon, clwb chwaraeon a gweithfeydd trin carthion.
For press queries please contact:
Ruth Chambers, Head of Policy on
020 7924 4077 ext. 222
