BRWYDR APÊL Y GARREG LAS YN AGOSÁU
15 Mehefin 2005
Ar ddydd Gwener, Mehefin 17, bydd y Llys Apêl (1) yn clywed apêl Cyngor y Parciau Cenedlaethol (CPC) (2) yn erbyn dyfarniad yr Uchel Lys (3) ar gymeradwyaeth Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro (4) i bentref gwyliau'r Garreg Las. Hwn yw'r cam diweddaraf yn y frwydr i atal "pentref gwyliau" bondigrybwyll rhag anharddu cefn gwlad y Parc. Bydd tri barnwr y Llys Apêl yn penderfynu a gaiff y pentref gwyliau ei godi neu beidio, penderfyniad a fydd â goblygiadau pellgyrhaeddol i bob un o'r Parciau Cenedlaethol.
Meddai Ruth Chambers, Pennaeth Polisi CPC: "Mae'r apêl yn achos prawf. Polisi'r llywodraeth yw bod gan Barciau Cenedlaethol y lefel uchaf o amddiffyniad i'w tirwedd ond mae penderfyniad y Garreg Las wedi chwalu hyn. Bydd y llys yn rhoi dyfarniad ar a ddylai honiad datblygwyr y Garreg Las, sef y byddai o fudd i'r economi lleol, ddisodli polisïau cynllunio a sefydlwyd i amddiffyn Parciau Cenedlaethol. Mae'r penderfyniad hwn yn bwysig i'r holl Barciau Cenedlaethol. Byddwn yn cyflwyno'r achos cryfaf posibl i farnwyr y Llys Apêl er mwyn rhwystro datblygiad y Garreg Las rhag mynd yn ei flaen ac i sicrhau bod yr amddiffyniad a roddir i'r Parciau Cenedlaethol trwy'r system gynllunio'n aros yn gyfan".
Ychwanegodd Sylvia Davies, Swyddog Materion Cymreig CPC: "Mae'r achos hwn yn allweddol o bwysig i Barciau Cenedlaethol Cymru, sy'n gorchuddio 20% o dir Cymru, ac sy'n hanfodol i economi'r genedl ac sy'n rhan bwysig o'n diwylliant. Y mae'r rhain yn ysgyfaint gwyrdd i bobl Cymru ac i'r miliynau o ymwelwyr sy'n dod i fwynhau prydferthwch, llonyddwch a thawelwch y Parciau. Rydyn ni'n ddiolchgar am y gefnogaeth a dderbyniwyd ar gyfer ein gweithredu cyfreithiol oddi wrth bobl leol yn Sir Benfro, yn ogystal â gweddill Cymru a thu hwnt. Mae hyn yn adlewyrchu'r diddordeb cyhoeddus eang yn yr achos ac mewn amddiffyn Parciau Cenedlaethol. Heb y gefnogaeth gyhoeddus hon ac ymdrechion ein tîm cyfreithiol ymroddedig fydden ni ddim wedi gallu dod â'r her yma".
Meddai Ruth Chambers wedyn: "Trwy ddod â'r her gyfreithiol hon mae Cyngor y Parciau Cenedlaethol wedi tynnu sylw at yr angen i awdurdodau cyhoeddus fod yn fwy cadarn wrth amddiffyn Parciau Cenedlaethol. Mae'r achos hefyd wedi datgelu'r anawsterau wrth herio penderfyniadau cynllunio gwael oherwydd does dim hawl apelio yn erbyn cymeradwyaeth gynllunio ac eithrio trwy'r llysoedd, sy'n aml yn rhy ddrud i fentro. Mae'n rhaid rhoi sylw i hyn os yw'r llywodraeth am gyrraedd ei nod o gael y gymuned i gymryd mwy o ran mewn penderfyniadau cynllunio.
"Beth bynnag a ddigwydd yn y Llys Apêl, byddwn yn parhau i weithio gyda llywodraethau yn San Steffan a Chaerdydd a chyda phob un o Awdurdodau'r Parciau Cenedlaethol i sicrhau fod gan y Parciau a'u cymunedau ddyfodol hyfyw a fydd yn rhoi gwaith a manteision cymdeithasol mewn ffyrdd nad ydyn nhw'n difetha eu hamgylchedd arbennig."
Nodiadau i Olygyddion
1. Bydd y Llys Apêl yn clywed yr apêl ar Fehefin 17. Wrth roi caniatâd i apelio, cydnabu'r Gwir Anrh. Arglwydd Ustus Keene fod "modd dadlau'n deg y pwynt a gyflwynwyd fel sail i'r apêl ac mae'n codi mater o bwysigrwydd sylweddol am y berthynas rhwng Adran 54A a pholisïau cynlluniau datblygu. Dylai hyn gael ei ystyried gan y Llys llawn". Mae'r Llys yn eistedd yn y Llysoedd Barn Brenhinol ar y Strand yn Llundain.
2. CPC yw'r elusen genedlaethol sy'n gweithio i warchod a gwella Parciau Cenedlaethol Cymru a Lloegr, a mannau sy'n haeddu statws Parc Cenedlaethol, ac sy'n hyrwyddo dealltwriaeth a mwynhad didramgwydd ohonynt er lles pawb.
3. Ar 17 Rhagfyr 2004 barnodd y barnwr Uchel Lys, Mr Ustus Jack fod y penderfyniad i roi caniatâd i ddatblygiad y Garreg Las - yn cynnwys 340 o gabanau pren, "pentref" newydd sbon, clwb chwaraeon a gwaith trin carthffosiaeth - yn gyfreithlon.
4. Cymeradwyodd pwyllgor rheoli datblygiadau Awdurdod y Parc y cais cynllunio amlinellol ar 28 Ionawr 2004.
Cyswllt: Ruth Chambers, Pennaeth Polisi, 020 7924 4077 est. 222 / 07769 676 397
Sylvia Davies, Swyddog Materion Cymreig, 029 2045 0433 / 07779 718 224
For press queries please contact:
Ruth Chambers, Head of Policy on
020 7924 4077 ext. 222
