Ymchwiliad yn gwarchod bannau brycheiniog rhag echdynnu tywod a graean yn y dyfodol

Mae Cyngor y Parciau Cenedlaethol (1) yn llawenhau heddiw wedi iddo glywed y newyddion bod arolygydd cynllunio annibynnol wedi gwrthod polisi a allai fod wedi arwain at echdynnu tywod a graean a allai niweidio ardaloedd sensitif o Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.

Roedd Cynllun Awdurdod y Parc Cenedlaethol wedi neilltuo nifer o ardaloedd o gefn gwlad na fyddent yn cael eu datblygu oherwydd efallai y byddai eu hangen ar gyfer echdynnu tywod a graean yn y dyfodol.

Yn dilyn ymchwiliad cyhoeddus, cafodd yr Arolygydd (2) nad oedd tystiolaeth ddigonol ynghylch safon y tywod a'r graean wedi ei darparu er mwyn cwrdd â'r gofynion a nodwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru. Cafodd hefyd nad oedd cyfyngiadau amgylcheddol chwarela mewn Parc Cenedlaethol wedi eu hystyried yn ddigonol, ac argymhellodd y dylai'r polisi gael ei ddileu.

Dywedodd Ruth Chambers, Pennaeth Polisi Cyngor y Parciau Cenedlaethol, "Rydym wrth ein boddau fod yr Arolygydd wedi cytuno â'r dystiolaeth a gyflwynwyd gennym ni ac eraill (3) yn yr ymchwiliad cyhoeddus a gynhaliwyd ym mis Hydref 2005. Roeddem wedi dadlau nad oedd yr hyn a elwid yn 'ddiogelu' tywod a graean i'w echdynnu yn y dyfodol yn angenrheidiol nac yn addas ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.

"Rydym yn llwyr gefnogi canfyddiadau'r Arolygydd nad oes lle i bolisi a allai fod wedi arwain at echdynnu niweidiol o dywod a graean yn y dyfodol yng Nghynllun Awdurdod y Parc Cenedlaethol. Mae'r ffaith ei bod wedi gwrthod y polisi hwn yn llwyr wedi anfon neges glir at Awdurdod y Parc Cenedlaethol, ac mae'n rhaid iddynt ymgynghori â'r cyhoedd ynglyn ag unrhyw newidiadau terfynol i'r cynllun. Rydym yn gobeithio y bydd argymhelliad yr Arolygydd yn peri i Lywodraeth Cynulliad Cymru ailfeddwl, a'r Cynulliad oedd wedi cyfeirio Awdurdod y Parc i gynnwys y polisi hwn yn ei gynllun. Mae CPC bob amser wedi haeru, oherwydd amgylchedd arbennig y Parc Cenedlaethol, nad yw'n addas tynnu sylw at adnoddau tywod a graean yn y ffordd hon, gan nad ydynt yn debygol o gael eu gweithio fyth. Byddai'r polisi wedi tanseilio'r warchodaeth fawr a roddir i Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog."

Notes to Editors

  • 1. CPC yw'r elusen genedlaethol sy'n gweithio i warchod a hybu Parciau Cenedlaethol Cymru a Lloegr ac ardaeloedd sy'n teilyngu statws Parc Cenedlaethol, a hyrwyddo dealltwriaeth a mwynhad tawel ohonynt er budd pawb.
  • 2. Paratowyd Adroddiad yr Arolygydd ar gyfer Cynllun Datblygu Unedol Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn dilyn ymchwiliad cyhoeddus a gynhaliwyd rhwng 18fed Hydref 2005 a 14eg Rhagfyr 2005, a gellir ei weld ar wefan Awdurdod y Parc Cenedlaethol ar
    Brecon UDP Report Covering Letter
    Brecon UDP ReportDisgwylir i Awdurdod y Parc Cenedlaethol ymgynghori ar ddiwygiadau arfaethedig i'r Cynllun Datblygu Unedol yn ystod haf 2006.
  • 3. Ymunodd CPC â gwrthwynebwyr eraill er mwyn cyflwyno tystiolaeth i'r Arolygydd mewn trafodaeth o gwmpas y bwrdd ar bolisi diogelu tywod a graean. Roedd y rhain yn cynnwys Cyngor Cymuned Talybont-ar-Wysg a thrigolion lleol.

Cysylltwch â:
Ruth Chambers, Pennaeth Polisi, Ffôn
020 7924 4077 estyniad. 222