Ymunwch â Iolo, dyn yr adar, i ddathlu 50 mlynedd o Lwybr yr Arfordir
11 June 2003
Bydd Iolo Williams, y cyflwynydd teledu adnabyddus a'r arbenigwr ar adar, yn estyn llaw ar gyfer dathliadau pen-blwydd Llwybr Arfordir Penfro yn hanner cant trwy arwain taith ar hyd un o adrannau mwyaf trawiadol y llwybr.
Mae croeso i bawb i ymuno â Iolo ar y daith gylch o Dyddewi i Borth Clais sy'n cymryd lle ar Ddydd Gwener, Gorffennaf 4ydd. Bydd y daith, a drefnwyd ar y cyd gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro a Chyngor y Parciau Cenedlaethol, yn cychwyn am 1.30 yp o Ganolfan Ymwelwyr Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn Y Gelli, Tyddewi. Iolo Williams yw Is-lywydd CPC, yr elusen genedlaethol sy'n gweithio i warchod a gwella Parciau Cenedlaethol Cymru a Lloegr ac i hyrwyddo dealltwriaeth a mwynhad tawel ohonynt, ac mae'n gefnogwr pybyr.
Mae'r llwybr yn tywys cerddwyr ar hyd tirweddau hanesyddol a naturiol godidog a thrawiadol gyda golygfeydd sy'n newid bob dydd. Bydd yna gyfle i brofi swyn y Santes Non yn man geni traddodiadol Dewi Sant, sy'n enwog am ei naws hudol. Mae Porth Clais ei hun yn gilfach gul a oedd yn borth masnachol prysur yn yr 16eg ganrif ac sydd â chyfoeth o gysylltiadau chwedlonol yn ogystal â diddordeb daearegol.
Bydd yna ddigon o gyfleoedd i gwrdd â Iolo, sydd wedi bod yn cerdded tipyn o gwmpas Cymru ar gyfer rhaglenni teledu amrywiol eleni, a chyfle i glywed hanesion ganddo.
Dywedodd Iolo ei fod wrth ei fodd i fod yn arwain y digwyddiad. "Fel Is-lywydd CPC," meddai, "Rwyf yn credu o ddifrif bod gennym lawer i'w ddathlu ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Penfro. Mae Llwybr yr Arfordir yn cynnig mynediad at gyfoeth anhygoel o dirwedd, bywyd gwyllt a diwylliant, sy'n bwysig ar lefel genedlaethol yn ogystal ag i Gymru. Rwy'n benderfynol o wneud fy rhan i sicrhau bod y Parciau'n cael eu gwarchod, bod eu gwerth yn cael ei ddeall a'u bod yn hygyrch i bawb.
Gweithiodd Iolo i'r RSPB cyn gwneud enw iddo'i hun fel cyflwynydd teledu cyfrwng Cymraeg a Saesneg. Ef oedd testun y gyfres 'Birdman' ac ar hyn o bryd mae'n cyflwyno'r gyfres deledu, 'Crwydro', ar S4C sy'n sioe cerdded a sgyrsio gydag enwogion o Gymru.
Nodiadau i Olygyddion:
1. Am wybodaeth bellach, cysylltwch â Carys Howell (CPC) ar 07887 955616 neu John Evans (Parc Cenedlaethol) ar 01437 771422.
2. Mae'r daith yn dechrau am 1.30 yp o Ganolfan Ymwelwyr Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn Y Gelli, Tyddewi, Ffôn 01437 720392.
For press queries please contact:
Ruth Chambers, Head of Policy on
020 7924 4077 ext. 222
