Y GARREG LAS: corff gwylio i apelio
6 Ionawr 2005
Mae Cyngor y Parciau Cenedlaethol (CPC) (1) yn ceisio hawl i apelio (2) yn erbyn dyfarniad yr Uchel Lys (3) bod penderfyniad Awdurdod Parc Cenedlaethol Penfro (4) i roi caniatâd cynllunio amlinellol ar gyfer datblygiad y Garreg Las (5 a 6) yn gyfreithlon.
Dywedodd Ruth Chambers, Pennaeth Polisi'r CPC: "rydyn ni wedi meddwl yn ddwys am ddyfarniad siomedig yr Uchel Lys a phenderfynodd ein hymddiriedolwyr yn unfrydol i geisio hawl i apelio oherwydd goblygiadau dyfarniad y Garreg Las i'r holl Barciau Cenedlaethol, yng Nghymru ac yn Lloegr.
"Rydyn ni'n apelio ar agwedd gynllunio'r dyfarniad gan nad ydyn ni'n credu bod Awdurdod y Parc Cenedlaethol wedi gweithredu'n gyfreithlon pan benderfynodd rhoi honiadau'r datblygwr o 600 o swyddi o flaen ei reolau cynllunio ei hun sy ddim yn caniatáu datblygiadau mawr yn y Parc Cenedlaethol heblaw mewn amgylchiadau eithriadol.
"Dydyn ni ddim yn amau na fyddai'r Garreg Las yn dod â pheth elw economaidd i'r ardal, ond ein barn ni o hyd yw nad oes rhaid i'r datblygiad gael ei leoli o fewn y Parc Cenedlaethol er mwyn iddo fynd yn ei flaen (7).
"Rydyn ni hefyd yn poeni, pe bai datblygiad y Garreg Las yn mynd yn ei flaen, y byddai'n gosod cynsail beryglus oherwydd dyma'r datblygiad twristaidd mawr cyntaf i gael lle yn y Parc Cenedlaethol ac oherwydd ei fod wedi ei gymeradwyo yn groes i bolisïau lleol a chenedlaethol a gynlluniwyd i warchod y Parc Cenedlaethol.
"Elusen fach gydag adnoddau cyfyngedig yw CPC ond rydyn ni wedi penderfynu dal i frwydro a chawsom ein calonogi'n fawr gan y negeseuon o gefnogaeth a gawson ni gan bobl yn Sir Benfro, ac yn wir trwy Gymru benbaladr ac o weddill y Deyrnas Unedig, ac mae llawer ohonyn nhw wedi ein hannog ni i apelio yn erbyn dyfarniad yr Uchel Lys.
"Os caiff ein cais i apelio ei ganiatáu, byddwn yn gofyn i'r Llys i hyn gael ei glywed cyn gynted ag y bo modd".
Nodiadau i olygyddion
1. CPC yw'r elusen genedlaethol sy'n gweithio i warchod a hybu Parciau Cenedlaethol Cymru a Lloegr ac ardaloedd sy'n haeddu statws Parc Cenedlaethol ac er hyrwyddo dealltwriaeth a mwynhad tawel ohonynt er budd pawb.
2. Caiff y penderfyniad i ganiatáu apêl ai peidio ei wneud yn y lle cyntaf gan farnwr yr Uchel Lys, Mr Justice Jack. Os bydd yn gwrthod, caiff cais ei wneud yn uniongyrchol i'r Llys Apêl.
3. Mae copïau o ddyfarniad yr Uchel Lys ar gael gan CPC neu gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro ar 0845 345 7275.
4. Cymeradwyodd pwyllgor rheoli datblygiadau Awdurdod y Parc y cais cynllunio amlinellol ar 28 Ionawr 2004. Am fod cais y Garreg Las yn gwrthdaro â pholisïau'r Awdurdod ei hun, cafodd ei hysbysebu fel gwyriad.
5. Mae'r datblygiad o fewn y Parc Cenedlaethol yn cynnwys 340 o gabanau pren a fyddai'n cael eu mewnforio o Estonia, pentref cwbl newydd, clwb chwaraeon a gwaith trin carthffosiaeth.
6. Datblygiad y Garreg Las fyddai'r trydydd anheddiad mwyaf yn y Parc Cenedlaethol ar ôl Dinbych y Pysgod a Saundersfoot.
7. Mae Parciau Cenedlaethol yn dirweddau lle mae pobl yn byw a gweithio, lle gall datblygiadau cymharus graddfa fach gynnal cymunedau'r Parciau Cenedlaethol a'u tirweddau. Mae'r canllawiau cynllunio cenedlaethol a lleol yn amddiffyn rhag datblygiadau mawr, fel y Garreg Las, mewn Parciau Cenedlaethol. Cyn caniatáu datblygiad o bwys mewn Parc Cenedlaethol, mae'n rhaid dangos na fyddai modd ei adeiladu y tu allan i'r Parc Cenedlaethol, a'i fod o ddiddordeb cenedlaethol.
Cyswllt: Ruth Chambers 020 7924 4077 est. 222; 07769 676 397
Sylvia Davies 029 2045 0433
For press queries please contact:
Ruth Chambers, Head of Policy on
020 7924 4077 ext. 222
