'Aelodau'r Parc wedi eu Halogi' - Rhaid i'r Gweinidog Ymyrryd

4 Rhagfyr 2003

"Rhaid i Lywodraeth y Cynulliad ymyrryd yn natblygiad twristiaeth arfaethedig Y Garreg Las", meddai'r elusen genedlaethol Cyngor y Parciau Cenedlaethol (CPC) (1) mewn ymateb i gasgliadau damniol bargyfreithiwr bod aelodau'r Cyngor Sir sy'n eistedd ar Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro wedi eu halogi am fod y Cyngor yn cefnogi'r prosiect yn ariannol. 

Fe fydd Pwyllgor Rheoli Datblygu'r Awdurdod yn cyfarfod ar 8 Rhagfyr i benderfynu ffawd prosiect Y Garreg Las (2).

Dywedodd Pennaeth Polisi CPC Ruth Chambers: "Mae cyngor y bargyfreithiwr blaenllaw, a gomisiynwyd gan swyddog gwarchodol y Parc Cenedlaethol, yn rhoi gerbron set o resymau cymhellgar pam y dylai Gweinidog Amgylchedd y Cynulliad, Carwyn Jones AC, weithredu a thynnu'r penderfyniad o ddwylo lleol.  Mae'r bargyfreithiwr wedi dyfarnu bod angen hawl eithrio arbennig ar aelodau'r Cyngor Sir, i'w gael oddi wrth y pwyllgor safonau, i fedru pleidleisio, ond dim ond dau ohonynt sydd wedi gofyn am yr hawl.  Nid yw bwriad yr aelodau sydd heb ofyn am hawl eithrio yn wyddys.  Os byddant yn pleidlieisio ar y cais hwn, fe fyddant yn gosod yr Awdurdod ar fin y gyllell, gyda her cyfreithiol i'r penderfyniad yn dra thebyg o ddilyn".

"Rhaid i Lywodraeth y Cynulliad ymyrryd a galw ymchwiliad cyhoeddus.  Os bydd y Cynulliad yn gwneud dim, bydd y cyhoedd yn colli hyder yng ngallu'r Cynulliad i sicrhau bod y sustem gynllunio yn darparu ffordd o ddod i benderfyniadau teg a di-duedd".

 ¾¾¾¾Diwedd¾¾¾¾

Nodiadau i Olygyddion

(1) Cyngor y Parciau Cenedlaethol (CPC) yw'r elusen genedlaethol sy'n gweithio i warchod a hybu Parciau Cenedlaethol Cymru a Lloegr ac ardaloedd sy'n teilyngu statws Parciau Cenedlaethol, a hyrwyddo dealltwriaeth a mwynhad tawel ohonynt er budd pawb.

(2) Mae'r datblygiad o fewn y Parc Cenedlaethol yn cynnwys 340 bwthyn pren (a fewnforir o Estonia), pentref newydd sbon, clwb chwaraeon a gweithfeydd trin carthffosiaeth.

For press queries please contact:
Ruth Chambers, Head of Policy on
020 7924 4077 ext. 222