Rhaid I Sherpa Aros

4 Mawrth 2009

Mae Ymgyrch y Parciau Cenedlaethol a Chymdeithas Eryri'n ymuno mewn ymgyrch newydd i sicrhau parhad gwasanaeth bysiau adnabyddus Sherpa'r Wyddfa trwy gydol y flwyddyn sydd i ddod.  Mae bysiau Sherpa wedi bod yn gwasanaethu cymunedau lleol ac ymwelwyr wrth iddynt fynd o gwmpas Parc Cenedlaethol Eryri ers mwy na deng mlynedd ar hugain, ac maent wedi derbyn cyllid gan Lywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer llawer ohonynt i wella ac i ehangu'r gwasanaeth.  Cawsant eu defnyddio gan ddegau o filoedd o bobl - gan arbed yr un nifer o deithiau car - bob blwyddyn.   

Er y gobeithir y bydd gwasanaethau haf yn gallu parhau'n llawn ar gyfer 2009, mae gweddill y flwyddyn yn y fantol gan fod y rhai sy'n gyfrifol am redeg y gwasanaeth yn wynebu toriadau o ran cyllido gan Lywodraeth y Cynulliad.  Deëllir bod Goriad Gwyrdd Eryri, y bartneriaeth sy'n gyfrifol am redeg y Sherpa, yn gwybod y byddai'r cymhorthdal cyllido gan Lywodraeth y Cynulliad yn gostwng dros amser ac y byddai'n dod i ben yn y pen draw, gyda chyfrifoldeb yn y diwedd yn symud i grwpiau cludiant rhanbarthol newydd sy'n cynnwys awdurdodau lleol.  Fodd bynnag, mae anghytundeb am yr amseriad ar gyfer hyn - gan adael diffyg o ran cyllido am 2009/10. 

“Ar adeg pan fo'r Llywodraeth yn arddel dyheadau dewr i dorri gollyngiadau carbon, gan gynnwys o gludiant, mae'n chwerthinllyd fod cludiant cynaliadwy carbon isel fel y Sherpa o dan fygythiad oherwydd yr hyn sy'n ymddangos fel diffygion o ran cyfathrebu - gan adael ymwelwyr i un o leoliadau mwyaf eiconig Cymru heb fawr ddewis ond gyrru," medd Alex Thursby, Swyddog Polisi Ymgyrch y Parciau Cenedlaethol. “Ac nid yw gollyngiadau carbon ond yn rhan o'r broblem," medd hi. “Mae Parc Cenedlaethol Eryri'n dirwedd o fri, sy'n cael ei werthfawrogi gan lawer am ei brydferthwch rhyfeddol a'r cyfle y mae'n ei roi i orffwys, hamddena a ffoi rhag rhuthr a sŵn bywyd bob dydd.  Y mae hefyd yn gartref i gannoedd o rywogaethau o fywyd gwyllt ac mae'n cynnwys llawer o fannau sensitif iawn.  Mae'n annerbyniol bod hyn yn cael ei fygwth gan gynnydd mewn traffig y mae modd ei osgoi'n llwyr. " ”

Medd Alun Pugh, Cyfarwyddwyr Cymdeithas Eryri:  “Rydym yn gwybod bod trigolion lleol a thwristiaid yn poeni'n fawr fod Llywodraeth Cymru wedi penderfynu tynnu'r plwg ar y gwasanaeth hanfodol hwn.  Mae'n arbennig o boenus fod Gweinidogion wedi dewis parhau i daflu arian cyhoeddus i noddi hedfan o Gaergybi i Gaerdydd tra'n torri gwasanaeth llesol i'r amgylchedd ym Mharc Cenedlaethol hynaf Cymru."

Deëllir bod Goriad Gwyrdd wedi rhagweld y byddai angen swm o £124,000 am y flwyddyn ariannol i ddod - swm mawr i'w wasgu o gyllidebau cludiant lleol sydd eisoes wedi'u hymrwymo, ond swm bach i Lywodraeth Cymru ei roi yn sgil ei holl adnoddau a'i pholisïau ei hun ar gludiant cynaliadwy, gwarchod tirwedd a newid hinsawdd.  “Mae angen i ni weld y Llywodraeth yn gwneud fel y mae'n dweud," medd Alex Thursby.  “Ac mae angen i ni weld awdurdodau lleol yn gwneud penderfyniadau sy'n adlewyrchu blaenoriaethau cenedlaethol yn glir.  Dylid annog mwy o bobl i adael eu ceir gartref a rhaid diogelu gwasanaethau fel y Sherpa ar gyfer y dyfodol."   

Nodiadau i Olygyddion

1. Mae YPC yn ymgyrchu i warchod ac i hyrwyddo Parciau cenedlaethol er lles a mwynhad didramgwydd pawb.
2. Mae Cymdeithas Eryri'n elusen gofrestredig sydd wedi'i hymrwymo i warchod Parc Cenedlaethol Eryri.
3. Mae Goriad Gwyrdd Eryri'n Bartneriaeth rhwng Cyngor Bwrdeistref Conwy, Cyngor Gwynedd, Cyngor Cefn Gwlad Cymru, Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, Adran Menter a Chludiant  Llywodraeth Cynulliad Cymru (yn gynt y WDA) a Chroeso Cymru.  (Gw.  <http://www.snowdoniagreenkey.co.uk/index2.asp?id=33> )
4. Gwnaeth Deddf Cludiant (Cymru) 1006 ddarpariaeth ar gyfer system cynllunio cludiant newydd a fydd yn cymryd lle'r genhedlaeth gyntaf o Gynlluniau Cludiant lleol a baratowyd gan bob awdurdod lleol, gyda Chynlluniau Cludiant Rhanbarthol wedi'u llunio gan bedwar consortiwm cludiant rhanbarthol newydd yng Nghymru (gw. http://new.wales.gov.uk/topics/transport/publications/wts/rtp/?skip=1&lang=cy )

Cysylltiadau:

Alun Pugh
Cyfarwyddwr, Cymdeithas Eryri
T: 077 0288 4827
E: director@snowdonia-society.org.uk

Alex Thursby
Swyddog Polisi, Ymgyrch y Parciau Cenedlaethol
T: 020 7924 4077 x232
E: alex@cnp.org.uk

For press queries please contact:
Ruth Chambers, Head of Policy on
020 7924 4077 ext. 222