Golau gwyrdd gan  y barnwr i her y Garreg Las

1af Mehefin 2004

Mae barnwr wedi rhoi caniatād i Gyngor y Parciau Cenedlaethol (CPC) [1] fynd ymlaen i herio'n gyfreithiol benderfyniad Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro [2]i roi caniatad cynllunio amlinellol ar gyfer datblygiad y Garreg Las (Bluestone) ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Penfro.

"Rydym yn hynod fodlon fod y barnwr wedi ffafrio ein cais am ganiatad i herio yn gyfreithiol benderfyniad yr Awdurdod, ac felly mae ein cais wedi clirio'r rhwystr cyntaf", meddai Ruth Chambers, Pennaeth Polisi CPC. "Mae'r achos yn debyg o gael ei wrando yn llawn yn yr Hydref dros gyfnod o ddau ddiwrnod, o leiaf. Wrth ganiatau yr her mae'r barnwr yn cydnabod fod yma achos teilwng i'w ystyried yn llawn yn y llys.  Gwrthododd y barnwr ymdrechion Awdurdod y Parc Cenedlaethol a'r datblygwyr i rwystro'r cais. Dywedodd hefyd ei fod yn benodol yn gwrthod awgrym Awdurdod y Parc a oedd am i'r barnwr oedi nes byddai caniatad cynllunio wedi ei gyhoeddi cyn ystyried caniatad i fwrw ymlaen a'r achos yn y llys. Byddai hynny wedi golygu oedi llawer hwy cyn i'r achos gael ei glywed gan y llys."

Nodiadau ar Gyfer Golygyddion:

1.                   Cyngor y Parciau Cenedlaethol yw'r elusen genedlaethol sy'n ymgyrchu i ddiogelu a hyrwyddo Parciau Cenedlaethol Cymru a Lloegr, ac ardaloedd sy'n haeddu cydnabyddiaeth fel Parc Cenedlaethol. Mae hefyd yn hyrwyddo dealltwriaeth a mwynhad tawel er budd pawb.

2.                   Rhoddwyd caniatad amlinellol i'r cais gan bwyllgor rheoli datblygu Awdurdod y Parc ar Ionawr 28ain. Gan fod cais y Garreg Las yn mynd yn groes i bolisiau'r Awdurdod, fe'i hysbysebwyd felly.

3.                   Mae'r datblygiad o fewn y Parc Cenedlaethol yn cynnwys 340 llety (lodge) o wneuthuriad pren wedi eu mewnforio o Estonia, pentref newydd sbon, clwb chwaraeon a gwaith trin carthion.

4.                   Dechreuwyd symudiadau cyfreithiol yn yr Uchel Lys ar ddydd Gwener 23ain o Ebrill 2004.

For press queries please contact:
Ruth Chambers, Head of Policy on
020 7924 4077 ext. 222